DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015

DYDDIAD

14 Ionawr 2015

GAN

Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

 

 

 

Heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru cyhoeddwyd dogfen ymgynghori sy’n gofyn am safbwyntiau ar fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015  http://wales.gov.uk/consultations/finance/disqualification-order/?&lang=cy

 

Mae Adran 16 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor a wnaed gan Ei Mawrhydi i ddynodi rhai swyddi penodol, fel bod person sy’n dal un o’r swyddi hynny’n anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad. Cyn pob etholiad Cynulliad gwneir Gorchymyn Anghymhwyso newydd sy’n nodi’r rhestr ddiweddaraf o’r swyddi sy’n anghymhwyso. Mae’r swyddi hyn yn ychwanegol at y rheini a wnaed yn swyddi anghymhwyso gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a deddfwriaeth arall.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ynghylch pa swyddi y dylid eu cynnwys yn y Gorchymyn hwnnw. Rwy’n awyddus i glywed safbwyntiau’r rhanddeiliaid a byddaf yn ystyried y rhain yn ofalus cyn paratoi’r fersiwn ddrafft derfynol o’r Gorchymyn. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn yn para 8 wythnos tan 11 Mawrth 2015.  Nodir manylion sut i ymateb yn y ddogfen ymgynghori. Yn dilyn ystyried yr ymatebion caiff y Gorchymyn drafft ei gyflwyno i’r Cynulliad ei gymeradwyo cyn iddo gael ei gyflwyno’n ffurfiol gerbron Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor yn ddiweddarach eleni.